Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 4 Tachwedd
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3474
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2, 3 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg cwestiynau ar ran y Gweinidog Addysg a Sgiliau.
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5862 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwerth cyfleoedd prentisiaeth amrywiol i Gymru.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cynlluniau lleoliad gwaith ar gael i bobl ar draws cymdeithas yng Nghymru i gynorthwyo ailhyfforddi a chaniatáu ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a blaengar.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng pob sector o'r system addysg a busnesau yng Nghymru i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
5 |
43 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5864 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
5 |
42 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5865 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gan stryd fawr fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, cefnogi swyddi a menter lleol a gwella cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol;
2. Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau i dwf canol trefi, sy'n cynnwys:
a) y cynnydd mewn adwerthu ar-lein ac ar gyrion trefi;
b) colli gwasanaethau lleol neu asedau cymunedol a'r gyfres ddiweddaraf o fanciau a gafodd eu cau;
c) y gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr sy'n gyson yn uwch na chyfartaledd y DU;
d) y diffyg ystyriaeth gynnar o drafnidiaeth gynaliadwy mewn prosiectau adfywio; ac
e) methiant y system gynllunio i hwyluso datblygu ac annog buddsoddiad mewn ymateb i'r newidiadau yn yr hyn y mae cwsmeriaid yn galw amdano.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynigion arloesol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys datblygu rhwydwaith dysgu cenedlaethol i gynnig hyfforddiant ac adnoddau, hwyluso rhwydweithio i gael ysbrydoliaeth ar arfer gorau a chasglu a rhannu mynediad i ymchwil o bob cwr o'r byd ar adfywio canol trefi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
10 |
43 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Dechreuodd yr eitem am 17.41
NDM5863 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Cartrefi'r
21ain Ganrif: yr achos dros dai di-garbon yn awr
Daeth y cyfarfod i ben am 17.58
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2015